Catrin - Teithiau cerdded a natur Pan dw i'n mynd allan i gerdded efo criw, dw i wrth fy modd yn rhannu'r fendith o gael byw mewn bro fel hyn. Yn dysgu pobl am fyd natur a beth allwch chi wneud efo'r pethau dach chi'n dod o hyd iddyn nhw – o fwyd i feddyginiaethau naturiol, mae bod yn yr awyr iach yn llesol o ran iechyd ac yn gyfle gwych i sgwrsio. Dw i'n diwtor Cymraeg ac mae cyfle felly hefyd i ymarfer yr iaith.
Llinos - Sesiynau Blasu’r Gymraeg - Penrhyndeudraeth Fel y rhan fwya' o bobl sy'n byw yn yr ardal, dw i'n byw trwy'r Gymraeg, wedi cael fy magu yn Gymraeg ac wedi cael fy addysg trwy'r Gymraeg. Wedi cael profiadau o weithio fel tiwtor iaith dramor, dw i bellach yn gwneud fy mywoliaeth yn dysgu Cymraeg i bobl o bedwar ban byd ac yma, yn lleol, ar fy ngharreg ddrws.  Mae fy sesiwn Gymraeg fer 'Cymraeg Cyflym' yn wych i ddysgwyr newydd sbon.  Dw i hefyd yn cynnig cyrsiau deuddydd yng ngwarchodfa natur Gwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth – lle llawn hanes a nature.  Cysylltwch am fy nghyrsiau 'Nabod yr Ardal', 'Y Natur o'n cwmpas' a 'Chwedlau Lleol'. Lara – Sesiynau Ffotograffydd Mae yna brydferthwch mewn dal eiliad sydd wedi mynd heibio cyn gynted â dw i'n pwyso'r botwm. Eiliadau all deulu, ffrindiau neu gwsmeriaid ymweld â nhw dro ar  ôl tro mewn llun. Mae'r ffotograffau dw i'n eu tynnu yn cynnig ffenest y gall fy nghleientau rannu eu stori, boed yn bersonol neu'n broffesiynol. Yn fwy na dim, ffotograffydd teulu a busnes ydw i. Dw i wrth fy modd yn plymio i mewn i bob sesiwn, yn dal ennydau ac yn archwilio manylion gwrthrych fy lluniau. Ar  ôl bob sesiwn, mi fydda i'n golygu pob delwedd yn unigol, yn rhoi'r amser a'r sylw maen nhw'n haeddu i wneud nhw ddisgleirio. Mae'r delweddau wnes i eu tynnu ar gyfer Byw. Bod yn enghraifft o hyn. Dw i'n cynnig profiad proffesiynol a hwyliog i bawb. Cysylltwch efo fi i ddarganfod mwy! Olwen - Cyrsiau Crefftau Gwlân - Llanfrothen Dw i'n drydydd cenhedlaeth i ffermio Fferm y Llan, fferm draddodiadol cig eidion a defaid, yn magu amrywiaeth o fridiau gwartheg a defaid. Mae hanner y fferm ar lefel y môr, wedi ei amddiffyn gan wal fôr y Cob ym Mhorthmadog, ac mae'r gweddill yn ymestyn at Rhyd, 500troedfedd uwchlaw lefel y môr. Mae'r fferm yn gwerthu gwartheg a defaid o fridiau pur, bocsys cig eidion a chig oen, ac yn rhedeg cyrsiau gyda gwartheg a defaid. Mae sesiynau trafodaeth amaethyddol, amgylcheddol a chadwraeth ar gael (o safbwynt ffermio ymarferol), a hanes y fferm a'r cyffiniau.
Lauren - Sesiynau Pilates - Llanfrothen Dim ymarfer corff yn unig ydi pilates, dim ryw ddewis ar hap o wahanol symudiadau. Mae pilates yn sustem o gyflyru corfforol a meddyliol sy'n medru ehangu eich cryfder corfforol, hyblygrwydd a  chydlynedd yn ogystal a lleihau straen, gwella ffocws, aliniad osgo a gwella llesiant. Gall pilates for i bawb...  Dechreuais fynychu dosbarthiadau pilates tra ar dymor sgio yn Morzine, Ffrainc, ac ar ôl ambell i sesiwn, ro'n i'n teimlo'n gryfach ac yn sylwi ar y ffordd ro'n i'n symud yn amlach, ar ôl mwy o sesiynau roeddet ti'n gallu gweld y manteision, wrth i 'nghorff i ddod yn dynnach a'm osgo'n gwella. Rhoddodd y hyfforddwr ffasiwn ysbrydoliaeth i mi wnes i ddim stopio gwersi ar ôl dod yn ol i Gymru, a meddyliais wrtho fi'n hun, dyna be' dw i isio wneud.
Sian – Sesiynau Celf - Croesor I mi mae creu celf yn angenrhaid, mae'r manteision yn eang a dirfawr i gyfathrebu ac o bosib i leihau straen meddyliol, dianc er mwyn tynnu sylw oddi ar ein problemau a mynegi emosiynau – i enwi dim ond rhai. Yma, yn fy stiwdio wrth droed y Moelwynion, dw i'n croesawu ymwelwyr i ddod i beintio efo mi.
Profiadau Cefn Gwlad…
Llinos - Sesiynau Blasu’r Gymraeg - Penrhyndeudraeth Fel y rhan fwya' o bobl sy'n byw yn yr ardal, dw i'n byw trwy'r Gymraeg, wedi cael fy magu yn Gymraeg ac wedi cael fy addysg trwy'r Gymraeg. Wedi cael profiadau o weithio fel tiwtor iaith dramor, dw i bellach yn gwneud fy mywoliaeth yn dysgu Cymraeg i bobl o bedwar ban byd ac yma, yn lleol, ar fy ngharreg ddrws.  Mae fy sesiwn Gymraeg fer 'Cymraeg Cyflym' yn wych i ddysgwyr newydd sbon.  Dw i hefyd yn cynnig cyrsiau deuddydd yng ngwarchodfa natur Gwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth – lle llawn hanes a nature.  Cysylltwch am fy nghyrsiau 'Nabod yr Ardal', 'Y Natur o'n cwmpas' a 'Chwedlau Lleol'. HOLWCH YMA
Catrin - Teithiau cerdded a natur Pan dw i'n mynd allan i gerdded efo criw, dw i wrth fy modd yn rhannu'r fendith o gael byw mewn bro fel hyn. Yn dysgu pobl am fyd natur a beth allwch chi wneud efo'r pethau dach chi'n dod o hyd iddyn nhw – o fwyd i feddyginiaethau naturiol, mae bod yn yr awyr iach yn llesol o ran iechyd ac yn gyfle gwych i sgwrsio. Dw i'n diwtor Cymraeg ac mae cyfle felly hefyd i ymarfer yr iaith.
Olwen - Cyrsiau Crefftau Gwlân - Llanfrothen Dw i'n drydydd cenhedlaeth i ffermio Fferm y Llan, fferm draddodiadol cig eidion a defaid, yn magu amrywiaeth o fridiau gwartheg a defaid. Mae hanner y fferm ar lefel y môr, wedi ei amddiffyn gan wal fôr y Cob ym Mhorthmadog, ac mae'r gweddill yn ymestyn at Rhyd, 500troedfedd uwchlaw lefel y môr. Mae'r fferm yn gwerthu gwartheg a defaid o fridiau pur, bocsys cig eidion a chig oen, ac yn rhedeg cyrsiau gyda gwartheg a defaid. Mae sesiynau trafodaeth amaethyddol, amgylcheddol a chadwraeth ar gael (o safbwynt ffermio ymarferol), a hanes y fferm a'r cyffiniau.
Lauren - Sesiynau Pilates - Llanfrothen Dim ymarfer corff yn unig ydi pilates, dim ryw ddewis ar hap o wahanol symudiadau. Mae pilates yn sustem o gyflyru corfforol a meddyliol sy'n medru ehangu eich cryfder corfforol, hyblygrwydd a  chydlynedd yn ogystal a lleihau straen, gwella ffocws, aliniad osgo a gwella llesiant. Gall pilates for i bawb...  Dechreuais fynychu dosbarthiadau pilates tra ar dymor sgio yn Morzine, Ffrainc, ac ar ôl ambell i sesiwn, ro'n i'n teimlo'n gryfach ac yn sylwi ar y ffordd ro'n i'n symud yn amlach, ar ôl mwy o sesiynau roeddet ti'n gallu gweld y manteision, wrth i 'nghorff i ddod yn dynnach a'm osgo'n gwella. Rhoddodd y hyfforddwr ffasiwn ysbrydoliaeth i mi wnes i ddim stopio gwersi ar ôl dod yn ol i Gymru, a meddyliais wrtho fi'n hun, dyna be' dw i isio wneud.
Sian – Sesiynau Celf - Croesor I mi mae creu celf yn angenrhaid, mae'r manteision yn eang a dirfawr i gyfathrebu ac o bosib i leihau straen meddyliol, dianc er mwyn tynnu sylw oddi ar ein problemau a mynegi emosiynau – i enwi dim ond rhai. Yma, yn fy stiwdio wrth droed y Moelwynion, dw i'n croesawu ymwelwyr i ddod i beintio efo mi.
Lara – Sesiynau Ffotograffydd Mae yna brydferthwch mewn dal eiliad sydd wedi mynd heibio cyn gynted â dw i'n pwyso'r botwm. Eiliadau all deulu, ffrindiau neu gwsmeriaid ymweld â nhw dro ar  ôl tro mewn llun. Mae'r ffotograffau dw i'n eu tynnu yn cynnig ffenest y gall fy nghleientau rannu eu stori, boed yn bersonol neu'n broffesiynol. Yn fwy na dim, ffotograffydd teulu a busnes ydw i. Dw i wrth fy modd yn plymio i mewn i bob sesiwn, yn dal ennydau ac yn archwilio manylion gwrthrych fy lluniau. Ar  ôl bob sesiwn, mi fydda i'n golygu pob delwedd yn unigol, yn rhoi'r amser a'r sylw maen nhw'n haeddu i wneud nhw ddisgleirio. Mae'r delweddau wnes i eu tynnu ar gyfer Byw. Bod yn enghraifft o hyn. Dw i'n cynnig profiad proffesiynol a hwyliog i bawb. Cysylltwch efo fi i ddarganfod mwy!
Profiadau Cefn Gwlad…