Mirain - Llety Cymreig Taldraeth Mae gennyf ddiddordeb mawr ers yn ifanc mewn coginio, tecstiliau a henebion. Daeth y cyfle i brynu’r Hen Ficerdy ym Mhenrhyndeudraeth, gyda’r freuddwyd o ddarparu gwasanaeth safonol o lety Cymreig. Mae yna hanes a chymeriad i’r adeilad a adeiladwyd yn 1858 sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi. Roedd y lleoliad yn ddelfrydol i fagu teulu, sydd hefyd gerllaw fy nghartref lle fy magwyd i. Roeddwn efo profiad blaenorol o adnewyddu tai a gosod llety hunan ddarpar a chynnig croeso cynnes i ymwelwyr.  Mae’r ffaith fy mod yn cynnig gwir groeso Cymreig gan ddangos ein traddodiadau, diwylliant a’n hiaith i’r byd yn bwysig iawn i mi – o’r bwyd cartref a lleol i’r hen ddodrefn Cymreig sy’n dyddio’n ôl î’r 17fed Ganrif, peintiadau o ogledd Cymru, crochenwaith Cymreig, blancedi, dwfes a matresi gwlan Cymreig wedi’i gwneud yng Nghymru. Mae yna stori tu ol I bob eitem sy’n ychwanegu gwerth at yr awyrgylch a’r naws.
Dewi - Siop Dewi Dw i'n rhedeg y siop ers 1979, er bod y siop wedi bod yma ddeugain mlynedd cyn hynny. Mae'r siop yn ganolbwynt i Benrhyndeudraeth ac wedi bod erioed a dan ni'n gwasanaethu'r holl gymuned - o Benrhyndeudraeth, i Lanfrothen, i Faentwrog a Thalsarnau. Yn ogystal â gwerthu papurau newydd, llyfrau am yr ardal leol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ffrwythau a llysiau, rydym hefyd yn ceisio ein gorau glas i ddarparu nwyddau eco-gyfeillgar ac hybu ail-gylchu. Dan ni'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth cyson y gymuned leol.
Bwyd, Cynnyrch a Llety…